Monastic Order: cyfeillion-friends

So what are we talking about? Are we about to shave our heads, don habits, wimples and float around like penguins – now that would be a sight!! We aim to ‘live simply, love well’ and draw on the heritage of Celtic Christianity in Wales.

It might help if we each said something of how we came to this point –

Karen: For a number of years now I have been exploring different facets of the Christian Celtic tradition. One aspect of leading Antioch over the last twenty or so years aspect has involved Peregrinati – journeys wandering for the love of God in this nation, and the nations.

I embraced the adventure of walking, travelling at times on my own, and also with small teams. I have a particular heart for the poor, and for those on the margins who have not as yet encountered Jesus, these values were deeply embedded in the Celtic Church, and I believe are also embedded in Antioch as a Church Community.

Importantly women were also able to play significant roles in expressing their faith.

I also, personally, found a resonance with the creativity expressed in different elements of the Celtic Church. The High Stone crosses were billboards of faith often telling Bible stories carved into the stones, whilst the book of Kells, shone in the beauty of its calligraphy and playful design. The Celtic Saints, had a deep reverence for creation, and often preached using the natural world as an example. I resonate with the mix of an earthy faith, wrapped up in heavenly encounters. A current project is writing a book with Deb which will focus on engaging with traditional and contemporary spiritual disciplines, as a means of tending our faith and encouraging ourselves and others into fresh adventures of faith. I am excited by where this might lead!      

 Deb: In 2015 I had a growing sense of wanting to express my love for Jesus more deeply and honour Him more and release generational blessings that flow from who He made me to be.

There had also been some resonance with an article I had read in a national newspaper about the increase of young women becoming nuns. In conversation with friends later in the year I recounted my 2 weeks in a Lutheran convent (Evangelcial Sisters of Mary) in Darmstadt, Germany led by Basilea Schlink. It was 1976, I was 18 and I went on my own, with no language or contacts and leaving concerned parents behind to find out more. It was a special place where I learnt a rhythm of prayer and work, experienced the deep reality of the cross, repentance and for the first time heard the audible voice of God.

Looking back through 2015 there was a theme developing (I have since discovered that Pope Francis declared 2015 a year to celebrate the Consecrated Life). During an encounter with Jesus in the summer He asked me to let Him be my husband. As a single person for almost 60 years this was a vulnerable moment. For me the only thing I had left to surrender to Him was my body as an act of worship and so I said, “Yes.” In conversation with Karen I realised that if I was to mark this in any way I would need a monastic order to belong to. We agreed, and the leadership team agreed that we would start exploring what this might look like as part of the life of the community at Antioch. It feels like a next step in connecting with the Celtic Monastic inheritance in Wales and living it out in present culture.

We are hoping to tell the story of this journey here through a variety of mediums, writing in the Welsh and English languages, art, poetry, film, and photography.

Urdd Fynachaidd – Cyfeillion

Felly, beth yw hyn i gyd? Ydan ni am eillio ein pen, gwisgo abid, gwempl a cherdded o gwmpas fel pengwin – wel dyna ni lun! Ein bwriad yw ‘byw’n syml, byw’n dda’ a thynnu oddi ar dreftadaeth Cristnogaeth Geltaidd Cymru.

Efallai y byddai’n help i’r ddwy ohonom ddweud rhywbeth am ein taith hyd yma –

Karen: Am nifer o flynyddoedd bellach rwyf wedi bod yn archwilio gwahanol agweddau o’r traddodiad Cristnogol Celtaidd. Un agwedd o arwain Antioch yn ystod yr ugain mlynedd ddiwethaf ydi Perengrinati – teithiau o grwydro er mwyn cariad Duw yn y genedl hon, ac yn y cenhedloedd.

Cofleidiais yr antur o gerdded, weithiau ar fy mhen fy hun, ond hefyd efo timau bach. Mae gen i fyrdwn yn benodol am y tlawd, ac am y rhai sydd ar y cyrion sydd heb gyfarfod Iesu eto. Dyma werthoedd oedd yn ddwfn yn yr Eglwys Geltaidd, ac sydd yn ddwfn yn Antioch fel Cymuned Gristnogol hefyd, mi gredaf.

Yn bwysig, roedd merched hefyd yn gallu chwarae rhan bwysig wrth fynegi eu ffydd.

Yn bersonol, canfyddais gyseinedd gyda’r creadigrwydd a fynegwyd mewn gwahanol agweddau o’r Eglwys Geltaidd. Roedd y croesau Carreg Uchel yn fynegbyst i ffydd yn aml yn dweud storïau Beiblaidd wedi eu cerfio i’r garreg, tra bo Llyfr Cels yn hardd efo’i galigraffeg a’i ddyluniad chwareus. Roedd gan y Seintiau Celtaidd barch dwfn at y greadigaeth, a byddent yn aml yn pregethu trwy ddefnyddio’r byd naturiol fel esiampl. Rwy’n cyseinio gyda’r cymysgedd o ffydd ddaearol wedi ei lapio gyda chyfarfyddiadau nefol. Prosiect cyfredol sydd gan Deb a minnau yw ysgrifennu llyfr fydd yn canolbwyntio ar gysylltu efo disgyblaethau ysbrydol traddodiadol a chyfoes, fel ffordd o ofalu am ein ffydd a chalonogi ein hunain ac eraill i anturiaethau newydd yn ein ffydd. Rwy’n gyffrous wrth feddwl i ble y gallai fynd!

Deb: Yn 2015 roedd gen i awydd cynyddol i fynegi fy nghariad tuag at Iesu yn ddyfnach ac i’w anrhydeddu Ef yn fwy, a hefyd rhyddhau bendithion i’r cenedlaethau fydd yn llifo o’r hyn y mae Ef wedi ei greu ohonof.

Roedd yna gyseinedd hefyd mewn erthygl a ddarllenais mewn papur cenedlaethol am y cynnydd mewn merched ifanc oedd am fod yn lleianod. Mewn sgwrs efo ffrindiau yn ddiweddarach yn y flwyddyn adroddais yr hanes am bythefnos a dreuliais mewn cwfaint Lutheraidd (Chwiorydd Efengylaidd Mair) yn Darmstadt, yr Almaen, yn cael ei arwain gan Basilea Schlink. 1976 ydoedd, ac yn 18 oed euthum yno ar fy mhen fy hun, heb nag iaith na chysylltiadau, a gadael rhieni pryderus er mwyn mynd i ddarganfod mwy. Roedd yn le arbennig, pryd y dysgais am rythm gweddi a gwaith, profi realiti dwfn y groes, edifeirwch, ac am y tro cyntaf clywais lais clywadwy Duw.

Wrth edrych yn ôl trwy 2015 roedd thema yn datblygu (deallais wedyn bod y Pab Francis wedi datgan 2015 fel blwyddyn y Bywyd Cysegredig). Yn ystod cyfarfyddiad efo Iesu yn yr haf gofynnodd imi ganiatau iddo fod yn ŵr imi. Fel person sengl am bron i 60 o flynyddoedd roedd hon yn foment bregus. I mi’r unig beth a oedd gennyf ar ôl i’w roi iddo fel act o addoliad oedd fy nghorff ac felly dywedais, ‘Iawn.’ Mewn sgwrs efo Karen deallais os byddwn am nodi hyn mewn rhyw ffordd byddai rhaid imi gael urdd fynachaidd i berthyn iddo. Fe wnaethom ni gytuno, ac fe gytunodd y tîm arweinyddol y dylem gychwyn archwilio sut beth fyddai hyn fel rhan o fywyd y gymuned yn Antioch. Mae’n teimlo fel y cam nesaf yn y broses o gysylltu etifeddiaeth Mynachaeth Geltaidd yng Nghymru a’i fyw yn ein diwylliant cyfoes.

Rydym am gael dweud y stori mewn gwahanol ffyrdd, yn ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg, celf, ffilm a ffotograffi.

cyfeillion – friends

Rwy’n gorwedd ar soffa ffrind yn myfyrio ar faint o grwydro sydd wedi bod yn fy mywyd. Rwyf wrth fy modd efo’r gair Lladin ‘peregrinatio’ (crwydro er mwyn cariad Duw) ac ers imi gyfarfod Iesu pan yn 16 oed mae’n debyg mai dyna sy’n crynhoi fy mywyd. Mae gen i deimlad fod bywyd am gymryd tro arall yn y ffordd a bod rhaid imi ysgrifennu amdano. Efallai bod ‘paldaruo’ yn well disgrifiad a dyma fathu gair newydd ‘paldaratio’ (paldaruo er mwyn cariad Duw). Felly dyma wahoddiad i deithio i le anhysbys a sgwrsio wrth fynd ymlaen.

Urdd Fynachaidd

Yng Nghymru, mae yna draddodiad hir o ddilyn Iesu yn unol â mynegiant Cristnogaeth Fynachaidd Geltaidd ac yma yn Antioch, Llanelli, rydym wedi bod yn archwilio sut beth yw hyn am beth amser. Mae gweddi ac addoliad, disgyblaeth ysbrydol, a sefyll dros y tlawd a’r di-rym wedi bod yn werthoedd allweddol i ni fel cymuned. Teimlaf ei bod yn amser inni sefydlu urdd fynachaidd fydd yn llifo allan o’r gymuned yn Antioch sydd yn cydredeg a chynulleidfa bresennol yr eglwys.

Nid ydym wedi gweithio’r cwbl allan eto, ond yr hyn a wyddom ydi bod ychydig o ffrindiau (fi a Karen ar hyn o bryd!) sydd yn caru Iesu am gael byw allan o gariad Duw mewn ffordd fwy bwriadol.

Enw’r urdd yw ‘Cyfeillion – Friends’ ac mae ganddo dri phrif nod –

Cyfeillion Duw

Cyfeillion y Tlawd

Cyfeillion y Greadigaeth

Byddwn yn ysgrifennu mwy ynghylch sut y daethom i’r pwynt hwn, rhai o’r gwerthoedd a’r camau ymarferol yr ydym yn eu cymryd i ymarfer y gwerthoedd hynny mewn blogiau i ddod. Gobeithio y gallwch gysylltu â’n stori.

cyfeillion – friends

I am lying on a friend’s sofa reflecting on how much a wander my life has been. I love the Latin word ‘peregrinatio’ (wandering for the love of God) and since meeting Jesus at 16 years of age I guess that about sums it all up. It feels like there is about to be another turn in the road and that I just need to write about where it leads. ‘Wittering’ seems a more appropriate description and have just made up a word ‘witteratio’ (wittering for the love of God). So this is an invitation to travel to an unknown destination and chat along the way.

Monastic order

There is a long history of the Celtic Christian Monastic expression of following Jesus in Wales and at Antioch, Llanelli we have been exploring what this looks like for some time. Prayer and worship, spiritual disciplines, standing for the poor and the powerless have been key values for us as a community. It feels like it’s time to establish a monastic order flowing out of the community at Antioch that is complementary to the existing church congregation.

We don’t have it all worked out yet, but what we do know is that a few friends (me and Karen at the moment!) who love Jesus want to live out the love of God more intentionally in this way.

The order is called ‘Cyfeillion – Friends’ and has 3 main precepts –

Cyfeillion Duw – Friends of God,

Cyfeillion y Tlawd – Friends of the Poor,

Cyfeillion y Greadigaeth – Friends of Creation

We will be writing about how we came to this point, some of the values and practical steps we are taking to express these values in later blogs. We hope you can connect with the unfolding story!